Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 29 Ionawr 2020
Amser:
10.46 -
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5975
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Lynne Neagle AC David Rees AC Rhun ap Iorwerth AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Matt Downton, Llywodraeth Cymru Alistair Davey, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) |
1.1 O dan Reol Sefydlog 17.47(vi), gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod tan 10.30 gan nad oedd y cynrychiolydd o Gymdeithas y Swyddogion Carchar yn bresennol.
1.2 Ailgynullodd y Pwyllgor am 10.30. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.3 Nododd y Cadeirydd fod Helen Mary Jones AC bellach wedi gadael y Pwyllgor. Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor, a chroesawodd Rhun ap Iorwerth AC fel aelod newydd o'r Pwyllgor.
2.1 Ni chynhaliwyd y sesiwn dystiolaeth gan nad oedd y cynrychiolydd o Gymdeithas y Swyddogion Carchar yn bresennol.
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4.1 Ni chynhaliwyd yr eitem gan nad oedd y cynrychiolydd o Gymdeithas y Swyddogion Carchar yn bresennol.
5.1 Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cwmpas a'r dull arfaethedig ar gyfer yr ymchwiliad i brosesau rhyddhau o'r ysbyty, a chytunodd arno.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
6.2 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu:
Ø Ffigurau gwariant gan Fyrddau Iechyd ar ofal iechyd i’r carchardai.
Ø Gwybodaeth ychwanegol ynghylch grŵp goruchwylio iechyd a gofal cymdeithasol carchardai.
Ø Diweddariad ar y safonau drafft ar gyfer iechyd meddwl mewn carchardai.
Ø Copi o Strategaeth HMPSS ar gyfer ymdrin â phobl hŷn yn y ddalfa yn rhanbarth Cymru.
7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
9.1 Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth y Gweinidog a'r themâu allweddol sy'n codi yn sgîl yr ymchwiliad, ar gyfer eu cynnwys yn ei adroddiad.
10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft gan dderbyn casgliadau ac argymhellion yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau a oedd i’w cytuno drwy e-bost.